2012 Rhif 2572 (Cy. 283)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Sylfaenol) (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Unedau o Weithgaredd Deintyddol) (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau GDS”) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau PDS”).

Mae rheoliadau 2 a 3 yn ôl eu trefn yn diwygio paragraff 2 o Atodlen 2 i Reoliadau GDS a pharagraff 2 o Atodlen 2 i Reoliadau PDS drwy ddileu’r broses o ddyroddi presgripsiwn o’r math ar gwrs o driniaeth sy’n esempt rhag ffi y darperir unedau o weithgaredd deintyddol ar ei gyfer.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r buddiannau sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


2012 Rhif 2572 (Cy. 283)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Sylfaenol) (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Unedau o Weithgaredd Deintyddol) (Cymru) 2012

Gwnaed                                  9 Hydref 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       11 Hydref 2012

Yn dod i rym                       1 Tachwedd 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 61, 66 a 203(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([1]).

 

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Sylfaenol) (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Unedau o Weithgaredd Deintyddol) (Cymru) 2012, deuant i rym ar 1 Tachwedd 2012 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006

2. Yn Atodlen 2 (darparu gwasanaethau: unedau o weithgaredd deintyddol ac unedau o weithgaredd orthodontig) i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006([2]), ym mharagraff 2 (unedau o weithgaredd deintyddol), yn Nhabl B (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir o dan y contract mewn cysylltiad â chyrsiau o driniaeth sy’n esempt rhag ffi)—

(a)     yn y golofn gyntaf (math ar gwrs o driniaeth sy’n esempt rhag ffi), hepgorer “Issue of a prescription”; a

(b)     yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir), hepgorer “0.75”.

Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006

3. Yn Atodlen 2 (darparu gwasanaethau: unedau o weithgaredd deintyddol ac unedau o weithgaredd orthodontig) i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006([3]), ym mharagraff 2 (unedau o weithgaredd deintyddol), yn Nhabl B (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir o dan y cytundeb mewn cysylltiad â chyrsiau o driniaeth sy’n esempt rhag ffi)—

(a)     yn y golofn gyntaf (math ar gwrs o driniaeth sy’n esempt rhag ffi), hepgorer “Issue of a prescription”; a

(b)     yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir), hepgorer “0.75”.

 

 

 

Lesley Griffiths

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

9 Hydref 2012



([1])           2006 p.42.  

([2])           O.S. 2006/490 (Cy.59) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/456 (Cy.47).

([3])           O.S. 2006/489 (Cy.58) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/456 (Cy.47).